Mae NWRL wedi ymrwymo i ymarfer a datblygiad cynaliadwy ar draws pob un o'r tri philer cynaliadwyedd: cymdeithasol; economaidd; ac amgylcheddol.

Mae rygbi'r gynghrair yn fwy na 'champ yn unig'. Amcangyfrifir bod ei effaith gymdeithasol – canlyniadau iechyd, lleihau troseddu, gwell canlyniadau addysg a chyflogaeth, cyfleoedd gwirfoddoli a gwell boddhad bywyd – yn £185miliwn y flwyddyn yn y gêm yn Lloegr. Rydym yn gweld y potensial ar gyfer hyn ledled Cymru a byddwn yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn elwa. Trwy ei bolisïau, arferion a pherthynas â phartneriaid, bydd NWRL yn hyrwyddo ac yn gwella effaith gymdeithasol Rygbi’r Gynghrair.

Fel ardal gyda llawer o gymunedau o amddifadedd uchel, mae NWRL mewn sefyllfa unigryw i gael effeithiau cadarnhaol cryf ar fywydau pobl yn ein cymunedau. Ein gêm ni, eu gêm nhw. Bydd hyn yn dangos yr ymdeimlad o deulu a chymuned sydd gennym yng Ngogledd Cymru, a fydd yn cael effaith bersonol ac yn gwella hunanhyder a gwerth.

Rhaid i gynaliadwyedd amgylcheddol fod wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wnawn a’r camau a gymerwn. Byddwn yn lleihau effaith amgylcheddol ein gweithgareddau ac yn annog ein partneriaid i ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol yn eu gweithgareddau eu hunain.